Mikhail Fradkov
Oddi ar Wicipedia
Gwleidydd Rwsiadd yw Mikhail Yefimovich Fradkov (Rwsieg Михаи́л Ефи́мович Фрадко́в) (ganed 1 Medi 1950). Prif Weinidog Rwsia oedd ef o 5 Mawrth 2004 tan 14 Medi 2007.
Yn enedigol o ardal Kuybyshev (heddiw Samara), daliodd Fradkov swyddi Darpar Weinidog Perthnasau Economaidd Tramor (1992-3), Prif Ddarpar Weinidog Perthnasau Economaidd Tramor (1993-7), Gweinidog Perthnasau Economaidd a Masnach Tramor (1997-9), a Gweinidog Masnach (1999-2001), cyn cael ei benodi fel Darpar Ysgrifennydd y Cyngor Diogelwch. Daeth yn bennaeth dros Heddlu Ffederal dros Drethi yn 2001, ac wedyn cynrychiolydd Rwsia i'r Undeb Ewropeaidd. Cafodd ei enwebu fel prif weinidog gan Arlywydd Vladimir Putin ar 1 Mawrth 2004, a'i enwebiad yn cael ei gadarháu gan y Duma ar 5 Mawrth.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.