Moel Cynghorion
Oddi ar Wicipedia
Moel Cynghorion Yr Wyddfa |
|
---|---|
Llun | |
Uchder | 674m / 2,211 troedfedd |
Gwlad | Cymru |
Mae Moel Cynghorion neu Moel y Cynghorion yn fynydd sy'n rhan o fynyddoedd Yr Wyddfa yn Eryri. Saif i'r gogledd-orllewin o gopa'r Wyddfa ei hun, yr agosaf i gopa'r Wyddfa o gadwyn o fryniau; y lleill yw Foel Goch, Foel Gron, a Moel Eilio. Mae Bwlch Cwm Brwynog yn ei wahanu oddi wrth yr Wyddfa ei hun a Bwlch Maesgwm yn ei wahanu oddi wrth y copa nesaf, Foel Goch.
Gellir ei ddringo ar hyd nifer o lwybrau. Un ffordd yw dilyn Llwybr Llyn Cwellyn tua chopa'r Wyddfa hyd at Fwlch Cwm Brwynog ac yna troi i'r chwith i ddilyn y llwybr i gopa Moel Cynghorion. Gellir hefyd ddringo Moel Eilio gyntaf a cherdded ar hyd y grib.