Oddi ar Wicipedia
Lleoliad Montana yn yr Unol Daleithiau
Mae Montana yn dalaith yng ngogledd-orllewin yr Unol Daleithiau, sy'n ffinio â Chanada. Montana yw'r bedwaredd fwayf o daleithiau'r Unol Daleithiau gyda arwynebedd tir o 377,070 km². Mae'n dalaith fynyddig iawn yn y gorlelwin lle ceir rhan o'r Rockies a choedwigoedd mawr; yn y dwyrain ceir tir gwelltog y Gwastadiroedd Mawr. Roedd Montana yn rhan o Bryniant Louisiana gan yr Unol Daleithiau yn 1803. Daeth nifer o ymsefydlwyr yno pan gafwyd hyd i aur yn y mynyddoedd ar ganol y 19eg ganrif. Yn ystod y rhyfeloedd gan America yn erbyn yr Indiaid cafwyd nifer o frwydrau gan gynnwys Brwydr Little Bighorn yn 1876 pan orchfygwyd Seithfed Farchoglu George Armstrong Custer gan y Sioux a'r Cheyenne dan Sitting Bull. Helena, a ddechreuodd fel gwersyllfa i'r mwyngloddwyr aur o'r enw 'Last Chance Gulch', yw'r brifddinas.