Montreal
Oddi ar Wicipedia
Ail ddinas Canada a dinas fwyaf rhanbarth Québec yw Montréal (Ffrangeg Montréal). Hon yw'r ddinas Ffrangeg fwyaf yng Ngogledd America, a'r ail ddinas Ffrangeg yn y byd ar ôl Paris. Yn ôl Cyfrifiad Canada 2001, mae ganddi 1,583,590 o drigolion, tra bod 3,635,700 o bobl yn byw yn Montreal Fawr (amcangyfrif 2005). Lleolir Montreal ar ynys (Ynys Montréal) yng nghanol Afon St Lawrence yn ne-orllewin Québec, tua 1600km i'r gorllewin o Gefnfor Iwerydd.
Mae'r ddinas yn dyddio i gyfnod cyn i Ewropeaid wladychu Canada: pan gyrhaeddodd yr Ewropeaid cyntaf, wedi'u harwain gan y fforiwr Llydaweg Jacques Cartier, Ynys Montréal yn 1535, roedd pentref Iroquois Hochelaga yno yn barod. Mae'r wladfa Ffrangeg gyntaf (Ville-Marie) ar yr ynys yn dyddio i 1642. Cwympodd y dref i ddwylo byddin Prydain yn 1760. Ffynnodd y ddinas fel canolfan y fasnach ffwr yn y blynyddoedd wedyn. Cafodd ei hymgorffori fel dinas ym 1832, gan dyfu fel canolfan ddiwydiannol yn hanner cynta'r 19eg ganrif. Heddiw mae'r ddinas yn ganolfan fasnachol, ddiwydiannol, ddiwylliannol ac ariannol. Mae'n ddinas amlddiwylliannol hefyd: tra bod mwyafrif y boblogaeth (69%) yn Ganadaidd Ffrangeg o ran iaith a diwylliant, mae tua 12% yn Ganadaidd Saesneg a'r gweddill (19%) yn perthyn i wahanol ddiwylliannau (Eidaleg, Arabeg, Sbaeneg, Tsieineg a Groeg). Mae rhan fwyaf trigolion y ddinas yn ddwyieithog mewn Ffrangeg a Saesneg (o leiaf). Cynhaliwyd yr arddangosfa Expo yn y ddinas ym 1967, a'r Gemau Olympaidd yno ym 1976.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
[golygu] Poblogaeth
[golygu] Diwylliant
[golygu] Trafnidiaeth
Mae Montréal yn borth bwysig i longau ar y ffordd i Gefnfor Iwerydd. Lleolir maes awyr mwyaf Québec, Maes Awyr Pierre Elliott Trudeau, ger canol y ddinas.