Morffoleg (iaith)
Oddi ar Wicipedia
Ieithyddiaeth |
Ieithyddiaeth ddamcaniaethol |
Seineg |
Ffonoleg |
Morffoleg |
Cystrawen |
Semanteg |
Semanteg eiriadurol |
Arddullegol |
Pragmateg |
Ieithyddiaeth hanesyddol |
Ieithyddiaeth gymdeithasegol |
Caffael iaith |
Ieithyddiaeth gymhwysol |
Ieithyddiaeth wybyddol |
Mewn ieithyddiaeth, morffoleg yw'r astudiaeth o adeiladwaith geiriau, am y rhyngwyneb rhwng ffonoleg a chystrawen. Mae cydrannau yn eiriau, sy'n cael eu hadnabod fel morffemau.
Gwahaniaethir rhwng morffoleg ffurfdroadol a morffoleg darddiadol. Mae morffoleg ffurfdroadol yn ymdrin â sut mae geiriau'n newid eu siâp i fynegi nodweddion gramadegol megis rhif (unigol neu luosog) mewn enwau, neu amser (presennol neu gorffennol) a pherson mewn berfau. Mae morffoleg darddiadol ar y llaw arall yn ymdrin â sut mae morffemau yn clymu wrth ei gilydd i fynegi gwahaniaethau geirfaol, fel, er enghraifft, y gellir creu ansoddeiriau yn y Gymraeg drwy ychwanegu'r olddodiad -og at fôn enw, megis haul + -og > heulog.
Fel arfer, mae morffemau ffurfdroadol yn digwydd yn agosach at fôn gair na morffemau tarddiadol. Gwelir hyn yn y Gymraeg mewn ffurf megis lleihaodd, sy'n cynnwys tair morffem, llai + -ha- 'peri' + -odd 'trydydd unigol gorffennol'. Morffem darddiadol yw -ha- sy'n creu berf yn golygu 'peri i fod yn' allan o ansoddair, a morffem ffurfdroadol yw -odd gan ei bod hi'n mynegi nodwedd ramadegol, amser gorffennol. Mae'r drefn yn yr achos hwn felly yn adlewyrchu'r tueddiad cyffredinol mewn iaith.
[golygu] Cysyniadau pwysig
- Morffoleg ffurfdroadol
-
- Rhediad
- Morffoleg darddiadol
-
- Cyfansoddion
- Dodiaid: rhagddodiaid, olddodiaid a mewnddodiaid