Moroni
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas a dinas fwyaf ynysoedd Comoros yw Moroni (Arabeg موروني Mūrūnī). Mae'n brifddinas y wlad er 1962. Roedd ganddi boblogaeth o tua 60,200 (amcangyfrifiad 2003).[1] Lleolir y ddinas ar arfordir gorllewinol ynys Grande Comore. Gwasanaethir Moroni gan Maes Awyr Rhyngwladol y Tywysog Said Ibrahim (Cyfeirnod IATA: HAH). Ceir hefyd harbwr gyda cysylltiadau llon reholaidd i dir mawr Affrica ac ynysoedd eraill ynysfor Comoros, ynghyd â Madagascar ac ynysoedd eraill yng Nghefnfor India. Mae'r allforion o'r borthladd yn cynnwys fanila, coco, a choffi.