Sgwrs:Mosambic
Oddi ar Wicipedia
O ble daeth yr enw 'Mosambic'? Dydi o ddim yn cynrychioli'r ynganiad yn iawn yn fy marn i (sain z amlwg, ac acen ar y sillaf olaf). Anatiomaros 17:10, 29 Mawrth 2007 (UTC)
Roeddwn i wedi anghofio am hyn tan heddiw pan welais i newid categori i gydymffurfio â'r enw. Dwi'n gofyn eto : o ble daeth y Cymreigiad "Mosambic"? Dwi newydd chwilio Google a cheir dros 800 enghraifft o Mosambic. Yn anffodus dim ond DAU sydd yn Gymraeg, a ni piau'r ddau ohonyn' nhw. Anatiomaros 22:47, 27 Medi 2007 (UTC)
Dim syniad o ble daeth Mosambic, a rwyt ti'n iawn nad yw'n cydymffurfio a defnydd Cymraeg ar y We. Wrth gwrs, Mozambique yw ffurf a ddefnyddir mewn gwirionedd yn y Gymraeg, ac wrth gwrs roedd hyn yn aflonyddu pobl gan taw dyna beth a geir yn Saesneg, ond nid yn Bortiwgaleg. (Ar y llaw arall, mae'r enw Saesneg yn dod o'r Sbaeneg, ac efallai bod pobl yn fwy parod i ddilyn y Sbaeneg). Ta waeth am hyn, byddwn i o blaid dilyn defnydd llethol sgrifennwyr Cymraeg a defnyddio Mozambique. Os am gymreigio, mae angen to ar yr i-dot (i gyfleu'r acen ar y sillaf olaf), ac wrth gwrs mae'r z/s yn amrywio o dafodiaith i dafodiaith, felly pwy a wyr... Daffy 00:51, 28 Medi 2007 (UTC)
- Diolch am yr ymateb. Unwaith eto bydd y wicipedia Cymraeg yn eithriad i'r defnydd cyffredinol os cadwn ni hyn. Dwi'n awgrymu symud hyn i Mozambique os nad oes wrthwynebiad cryf a gwell gynnig ar gymreigiad - ac enghreifftiau o ddefnydd ohono. Anatiomaros 14:00, 28 Medi 2007 (UTC)