Mwyalchen
Oddi ar Wicipedia
Mwyalchen | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
||||||||||||||
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Turdus merula Linnaeus, 1758 |
Mae'r Fwyalchen (Turdus merula) yn aelod o deulu'r Turdidae. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop a rhan sylweddol o Asia.
Mae'r Fwyalchen rhwng 23.5 a 29 cm o hyd. Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd oddi wrth y plu du, heb unrhyw liw arall, pig melyn a modrwy felen o gwmpas y llygad. Mae'r iâr a'r adar ieuainc yn frown. Gellir clywed y ceiliog yn canu cyn ac yn ystod y tymor nythu; ambell dro gall ddynwared cân adar eraill neu ryw swn arall sydd i'w glywed yn yr ardal.
Nid yw'n aderyn mudol yn y rhannau hynny lle nad yw'r gaeafau yn oer iawn, ond mae adar o'r rhannau oerach yn symud tua'r de neu tua'r gorllewin. Nid yw'n aderyn sy'n casglu mewn heidiau mawr fel rheol.
Oherwydd ei fod yn aderyn adnabyddus a phoblogaidd, mae'r Fwyalchen wedi ei ollwng yn fwriadol mewn nifer o rannau o'r byd. Ystyrir yr aderyn yn broblem yn Awstralia a Seland Newydd gan ei fod yn cystadlu ag adar brodorol.