Mynydd Helygain
Oddi ar Wicipedia
Bryn yng nghanol Sir y Fflint, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Mynydd Helygain. Mae'n gorwedd ar echel sy'n ymestyn o'r gogledd-orllewin, i'r de o Dreffnynnon, i'r de-ddwyrain ger pentref Rhosesmor. Bryn hirgul gyda sawl copa isel ydyw Mynydd Helygain, sy'n cyrraedd ei fan uchaf (964 troedfedd) fymryn i'r de-orllewin o bentref Helygain.
Ar lethrau gogledd-ddwyreiniol Mynydd Helygain ceir Pentre Helygain a Helygain, gyda Llaneurgain i'r dwyrain. Ar y llethrau gorllewinol ceir Rhosesmor a'r Walwen. Mae'n gorwedd rhwng Bryniau Clwyd i'r gorllewin a gwastadedd arfordir Glannau Dyfrdwy i'r dwyrain.
Yn y gorffennol ceid llawer o waith cloddio ar y bryn, e.e. am blwm yn ymyl Rhosesmor.