Mynydd Olympus
Oddi ar Wicipedia
Mynydd Olympus Olympus |
|
---|---|
![]() |
|
Llun | Mynydd Olympus o Litochoro |
Uchder | 2,917 m (9,570 troedfedd) |
Gwlad | Gwlad Groeg |
Mynydd Olympus (Groeg:Όλυμπος) yw'r mynydd uchaf yng Ngwlad Groeg, Gan fod gwaelod y mynydd bron ar lefel y môr, mae mwy o ddringo i'w wneud i gyrraedd y copa nag ar bron unrhyw fynydd arall yn Ewrop. Saif tua 80 km o ddinas Thessaloniki, a gellir ei ddringo o dref Litochoro. Y copa uchaf ar y mynydd yw Mitikas.
Ym mytholeg Roeg, Mynydd Olympus oedd catref y Deuddeg Olympiad, prif dduwiau y pantheon Groegaidd, a chysylltir ef yn arbennig a'r duw Zeus.