Nell Gwyn
Oddi ar Wicipedia

Nell Gwyn (portread olew ar ganfas gan Peter Lely, tua 1675)
Roedd Nell Gwyn, sef Eleanor Gwyn (1650-1687), yn actores o Loegr, a aned yn Henffordd, yn ôl pob tebyg.
Does dim gwybodaeth am ei theulu ond roedd ei rhieni'n ddigon tlawd. Mae ei henw yn awgrymu ei bod o dras Gymreig.
Yn ôl traddodiad roedd hi'n gwerthu orennau yn Drury Lane, ardal theatrau Llundain, cyn dechrau ar ei gyrfa ar y llwyfan. Roedd hi'n enwog fel comedienne.
Cymerodd y brenin Siarl II Nell yn ordderch a chafodd ddau blentyn gordderch ganddi, yn cynnwys yr Arglwydd Buckhurst. Dywedir mai "Peidiwch â gadael i Nellie bach lygu" oedd geiriau olaf y brenin pan fu farw yn 1685.
Cyfranodd Nell Gwyn at sefydlu Ysbyty Brenhinol Chelsea.