Nereid (mytholeg)
Oddi ar Wicipedia
Mae Nereid yn enw ar y nymffod morol, unrhyw un o 50 merch (30 yn ôl Homer) Nereus a Doris ym mytholeg Roeg.
Ymhlith yr enwocaf yr oedd Amphitrite, Galatea, Thetis, Erato, Laomedia, Autonoe, Calypso, Arethusa, Eurydice a Menippe.
Codid allorau i'r Nereidiaid ar lan y môr ac offymid llefrith, mêl, olew olewydden a chig geifr iddyn nhw. Roeddent yn byw mewn ogofau morol. Eu dylestwydd oedd gwneud ewyllys Poseidon, duw'r môr. Roeddent yn hoff o'r Halcyonaid ac yn medru codi neu ostyngu tonnau'r môr; am hynny roedd yn arfer gan morwyr eu cyfarch cyn hwylio a gofyn eu hamddiffyn. Fe'i darlunir fel merched ifainc prydferth yn eistedd ar ddolffinau, weithiau'n dal tryfer Triton neu flodau yn eu dwylo.
[golygu] Ffynhonnell
- J. Lempriere, A Classical Dictionary (Llundain, d.d.)