Nest ferch Rhys ap Tewdwr
Oddi ar Wicipedia
Yr oedd y Dywysoges Nest yn ferch i Rhys ap Tewdwr, brenin olaf Deheubarth (fl. 1100-1120).
Adwaenir Nest fel "Helen Cymru" oherwydd iddi gael ei chipio gan Owain ap Cadwgan yn 1109, efallai yng nghastell Cilgerran. Roedd hi'n hardd eithriadol a chafodd garwriaethau niferus. Dywedir iddi esgor ar dros bymtheg o blant.
Tua'r flwyddyn 1100 priododd â Gerald de Windsor. Ymhlith ei phlant gan Gerallt o Windsor oedd ei ferch Angharad. Priododd Angharadd â William de Barri, arglwydd Maenorbŷr; un o'i meibion oedd y llenor enwog Gerallt Gymro.
[golygu] Ffuglen
Ysgrifenwyd dwy nofel ramantaidd am hanes Nest a'i bywyd anturiaethus gan Geraint Dyfnallt Owen, sef Nest (1949) a Dyddiau'r Gofid (1950).