Newid hinsawdd
Oddi ar Wicipedia
Mae newid hinsawdd neu gynhesu byd-eang yn cynnydd a welwyd yn nhymheredd cyfartalog y byd yn y degawdau diwethaf, a chynydd pellach a daroganwyd yn y canrif i ddod. Mae'r mwyafrif o wyddonwyr bellach yn credu bod cynhesu byd-eang yn digwydd, ar raddfa o gwmpas 0.3°C y degawd, a'i fod yn cael ei achosi gan gynnydd yng nghrynodiad y Nwyon Tŷ Gwydr, fel y'u gelwir, yn yr atmosffer. Y gydran bwysicaf oll o'r allyriannau nwyon tŷ gwydr yw carbon deuocsid (CO2). Y ffynonellau allyriant CO2 mwyaf yw gorsafoedd pŵer, cerbydau a diwydiant. Mae llosgi tanwyddau ffosil yn cyfrannu tua 80% at allyriant CO2 dynol yn fyd-eang.
[golygu] Dolenni allanol
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.