Noam Chomsky
Oddi ar Wicipedia
Athronydd a ieithydd yw Avram Noam Chomsky. Fe'i ganwyd ar y seithfed o Dachwedd, 1928. Athro Emriritws Ieithyddiaeth MIT ydyw. Cydnabyddir iddo greu damcaniaeth gramadeg cynhyrchiol, un o uchafbwyntiau ieithyddiaeth haniaethol yn yr 20fed ganrif. Yn ogystal, mae ei waith wedi cael dylanwad ar seicoleg, ac ar athroniaeth iaith ac athroniaeth meddwl.
Gan gychwyn gyda'i wrthwynebiad i Ryfel Fiet Nam yn y 1960au, fe ddaeth i'r amlwg yn y cyfryngau am ei ymgyrchu gwleidyddol. Mae'n ddeallusyn allweddol i'r asgell chwith yn ngwleidyddiaeth Unol Daleithau America. Mae'n feirniadol iawn o bolisïau tramor yr Unol Daleithiau. Disgrifia'i hun yn sosialwrrhyddewyllysol ac yn gydymdeimwr ag anarcho-gynghreiriaeth.