Nofel epistolaidd
Oddi ar Wicipedia
Nofel ar ddull llythyr neu gyfres o lythyrau yw Nofel epistolaidd.
Gall nofel epistolaidd fod ar ffurf llythyraeth gan unigolyn at ddarllenydd dychmygol neu fel cyfres o lythyrau rhwng dau neu ragor o gymeriadau ffuglen. Mae'r nofel fer Ffarwel Weledig (1946) gan Cynan yn enghraifft dda o'r ffurf flaenorol yn y Gymraeg.
Roedd y nofel epistolaidd yn arbennig o boblogaidd gan lenorion y 18fed ganrif yn Ewrop. Mae enghreifftiau adnabyddus yn cynnwys Les liaisons dangereuses (1782) gan Choderlos de Laclos yn Ffrangeg sydd ar ffurf cyfres o lythyrau rhwng y gwrth-arwr Valmont a'r Marquise de Merteuil a chymeriadau llai.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.