Norwyeg
Oddi ar Wicipedia
Iaith swyddogol Norwy ac un o'r ieithoedd Germanaidd gogleddol ydy'r Norwyeg. Fe'i siaredir gan tuag at 4,7 miliwn o bobl yn Norwy. Mae hi'n perthyn i is-grwp gorllewinol y gangen, ynghyd a'r Islandeg, y Ffaroeg a'r iaith farw Norn a siaradwyd yn yr oesoedd Orkney a Shetland hyd at y 18fed ganrif.
Mae dwy ffurf swyddogol yr iaith ysgrifenedig: bokmål (iaith llyfrau) a nynorsk (Norwyeg newydd). Mae bokmål yn deillio o ffurfiau Daneg a siaradwyd yn ninasoedd Norwy pan oedd y gwlad yn perthyn i Denmarc. Ffurf a greuwyd yn y 19eg ganrif gan Ivar Aasen ar sylfaen tafodieithoedd byw Gorllewin Norwy ydy nynorsk.