Padua
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn y Feneto yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal yw Padua, (Eidaleg: Padova, Lladin: Patavium. Mae'n brifddinas Talaith Padova, ac roedd y boblogaeth yn 2004 yn 211,985 (2004).
Saif y ddinas ar Afon Bacchiglione, 40 km i'r gorllewin o Fenis a 29 km i'r de-ddwyrain o Vicenza. Mae traddodiad ei bod wedi ei sefydlu yn 1183 CC gan y tywysog Antenor o Gaerdroea. Daeth yn municipium Rhufeinig yn 45 CC neu 43 CC.
Yn 601, gwrthryfelodd y ddinas yn erbyn y Lombardiaid, ac wedi gwarchae o 12 mlynedd, cipiwyd a llosgwyd hi gan Agilulf, brenin y Lombardiaid. Yn 899 anrheithiwyd Padua gan yr Hwngariaid. Sefydlwyd y brifysgol, y drydedd yn yr Eidal, yn 1222. Daeth dan reolaeth Fenis yn 1405, a pharhaodd hyn hyd 1797 heblaw am gyfnodau byr.
Ymhlith atyniadau Padua mae Capel Scrovegni (Eidaleg: Cappella degli Scrovegni), gyda cyfres o luniau fresco gan Giotto. Gardd Fotanegol Padua, Orto Botanico di Padova, a sefydlwyd yn 1545, yw'r hynaf yn y byd, ac mae wedi ei henwi'n Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
[golygu] Pobl enwog o Padua
- Titus Livius, hanesydd Rhufeinig (yn Abano, gerllaw Padua)
- Valerius Flaccus
- Asconius Pedianus
- Thrasea Paetus
- Andrea Palladio, pensaer
- Giovanni Battista Belzoni, Eifftolegwr
- Riccardo Patrese, gyrrwr rasio
Padua yw'r cefndir i ddrama William Shakespeare, The Taming of the Shrew.