Paisii Hilendarski
Oddi ar Wicipedia
Mynach Bwlgaraidd a hanesydd oedd Paisii Hilendarski (Bwlgareg Паисий Хилендарски) (ganwyd 1722 yn Bansko; bu farw 1773). Roedd yn ddiwygiwr diwylliannol, a chwaraeodd ran bwysig yng nghyfnod cynnar Diwygiad Cenedlaethol Bwlgaria. Mae'n fwyaf enwog am sgrifennu Hanes Slafonaidd-Bwlgaraidd. Edrychir arno yn aml fel tad mudiad a arweiniodd yn y pendraw at annibyniaeth Bwlgaria ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif. Mae wedi cael ei ganoneiddio fel sant gan yr Eglwys Uniongred.
Ganwyd Paisii yn Bansko ym 1722. Daeth yn fynach ym mynachlog Hilendar ym 1745. Ar ôl ychydig o flynyddoedd roedd yn teithio ar draws Bwlgaria yn gwneud gwaith y fynachlog. Gwelodd ddioddefiadau gwerin Bwlgaria o dan reolaeth yr Ymerodraeth Ottoman, gan synhwyro cyferbyniad dwys rhwng gorffennol ei wlad a'i chyflwr truenus presennol. Defnyddiodd ei brif waith Hanes Slafonaidd-Bwlgaraidd y Bobloedd, y Tsariaid, y Seintiau a'u Holl Weithredoedd a'r Ffordd Fwlgaraidd o Fyw i gyfleu gorffennol llewyrchus diwylliant Bwlgaria fel crud gwareiddiad Slafonaidd, ac i rybuddio ei gydwladwyr rhag dynwared diwylliant Groegaidd. Gorffennodd e'r hanes ym mynachlog Zograf ger Hilendar ym 1762. Gwnaethpwyd dros 50 o gopïau o'i waith yn y degawdau ar ôl ei farwolaeth ym 1773, ac fe'i hargraffwyd am y tro cyntaf yn Bwdapest ym 1844.
[golygu] Ffynonellau
Crampton, R. J. 1997. A concise history of Bulgaria. Caergrawnt: Cambridge University Press.