Pen Llithrig y Wrach
Oddi ar Wicipedia
Pen Llithrig y Wrach Carneddau |
|
---|---|
![]() |
|
Llun | Pen Llithrig y Wrach o Creigau Gleison |
Uchder | 799m / 2,621 troedfedd |
Gwlad | Cymru |
Mynydd yn y Carneddau yn Eryri yw Pen Llithrig y Wrach; saif yn sir Conwy.
Mae Pen Llithrig y Wrach ar y grib sy'n ymestyn tua'r de-ddwyrain oddi wrth brif grib y Carneddau, gan gychwyn ar ochr ddwyreiniol Carnedd Llywelyn ac arwain dros gopa Pen yr Helgi Du a gorffen gyda Pen Llithrig y Wrach uwchben Llyn Cowlyd, er bod Creigiau Gleision yr ochr arall i Lyn Cowlyd hefyd yn cael eu hystyried yn rhan o'r Carneddau.
Gellir ei ddringo ar hyd llwybr sy'n cychwyn o Bron Heulog, ychydig i'r gorllewin o bentref Capel Curig, neu gellir ei ddringo o'r gogledd-ddwyrain, o gyfeiriad Dolgarrog neu Tal-y-bont.