Penhwyad
Oddi ar Wicipedia
Penhwyad | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
||||||||||||||
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Esox lucius Linnaeus, 1758 |
Mae'r Penhwyad (Esox lucius) yn bysgodyn dŵr croyw sy'n gyffredin trwy rannau helaeth o Ewrop, Rwsia a Gogledd America. Fel rheol maent yn byw mewn llynnoedd lle mae digon o dyfiant yn y dŵr ac mewn afonydd lle mae'r llif yn araf. Gallant dyfu yn bur fawr; roedd y mwyaf a ddaliwyd hyd yn hyn, yn yr Almaen yn 1983, yn 31 kg (67 pwys). Benywaidd yw'r penhwyaid mwyaf bob amser; nid oes cofnod o bysgodyn gwrywaidd dros 8 kg.
Prif fwyd y Penhwyad fel rheol yw pysgod eraill, er y gall hefyd fwydo ar adar dŵr, yn enwedig y cywion, ar lyffantod ac ar famaliaid bychain. Fel rheol mae'n cuddio mewn tyfiant yn y dŵr i ddisgwyl i bysgodyn llai ddod yn ddigon agos i'w gipio.