Penmon
Oddi ar Wicipedia
Llecyn a phlwyf ar gongl de-ddwyreiniol Ynys Môn yw Penmon (Pen 'terfyn, diwedd' + Môn). Mae'n gorwedd i'r gogledd o Fiwmaris ac i'r dwyrain o blwyf Llangoed. Mae ei arfordir dwyreiniol yn gorwedd ar Afon Menai. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o cwmwd Dindaethwy, cantref Menai.
Mae'r ardal yn cynnwys Priordy Penmon, Castell Aberlleiniog, a chymunedau bychain Trecastell ac Aberlleiniog. Trwyn Du yw enw'r penrhyn ar bwynt eithaf Penmon. Ceir goleudy, maes parcio a chaffi yno a chyferbyn mae Ynys Seiriol, gynt yn eiddo i briordy Penmon.
Mae olion mynachdy o'r 6ed ganrif (Priordy Penmon) a gafodd ei ail-adeiladu wedyn yn y 12fed ganrif. Mae dwy groes Geltaidd yn dyddio o tua'r 10fed ganrif, oedd yn arfer sefyll tu allan i'r mynachdy, yn awr i mewn yn yr eglwys.
Yn Oes y Tywysogion gorweddai Penmon yng nghwmwd Dindaethwy, cantref Rhosyr.
Ger priordy Penmon ceir colomendy i ddal bron i fil o nythod a deiladwyd yn 1600.