Pennant (teulu)
Oddi ar Wicipedia
Roedd teulu Pennant yn deulu o foneddigion oedd yn berchenogion stadau Bychton a Downing yn Sir Fflint. Yn gynnar yn y 12fed ganrif ymsefydlodd Madog ap Meilyr ym Mychton. wedi iddo briodi Alice, etifeddes y stad. Yn ddiweddarach cymerodd David ap Tudur y cyfenw "Pennant".
Etifeddodd ei fab hynaf ef y stad, tra daeth yr ail fab, Thomas yn abad Abaty Dinas Basing, lle daeth yn enwog fel noddwr beirdd. Daeth ef yn gyndaid Pennantiaid Treffynnon a'r Penrhyn. O'r teulu yma y daeth Richard Pennant (1737-1808),tirfeddiannwr, perchennog caethweision a'r gŵr cyntaf i ddatblygu diwydiant llechi Cymru ar raddfa fawr pan gychwynodd Chwarel y Penrhyn. .
Daeth y llinach hŷn yn berchennog stad Downing yn 1724, pan etifeddwyd hi gan David Pennant ar farwolaeth Thomas Pennant, o gangen iau o'r un teulu. Mab David Pennant oedd Thomas Pennant, yr awdur, naturiaethwt a hynafiaethydd.