Pervez Musharraf
Oddi ar Wicipedia
Pervez Musharraf (Urdu: پرويز مشرف) (ganed 11 Awst, 1943) yw Arlywydd cyfredol Pakistan, a chyn Pennaeth Staff Byddin Pakistan. Daeth i rym yn 1999 trwy drefnu a gweithredu coup d'état milwrol ac mae wedi rhoi heibio cyfansoddiad Pakistan ddwywaith; ers hynny, mae wedi cael ei gefnogi'n ymarferol (trwy gymorth milwrol ac ariannol) gan wledydd y Gorllewin gan gynnwys yr Unol Daleithiau. Cipiodd Musharraf rym ar 12 Hydref, 1999, gan droi allan Nawaz Sharif, Prif Weinidog etholedig y wlad, cafodd wared ar y cyrff deddfwriaethol cenedlaethol a thaleithiol, cymerodd iddo'i hun y teitl o Brif Weithredwr a daeth felly'n arweinydd de facto llywodraeth Pakistan, y pedwerydd pennaeth milwrol yn hanes y wlad i wneud hynny. Yn ddiweddarach, yn 2001, apwyntiodd Musharraf ei hun i swydd Arlywydd Pakistan.
Ar 3 Tachwedd, 2007, ddyddiau yn unig cyn i Brif Lys Pacistan benderfynu ei barn ar ddeiseb a heriodd ddilysrwydd cyfansoddiadol ei ail-ethol yn arlywydd yn etholaethau dadleuol Hydref 2007, rhoddodd Musharraf heibio'r cyfansoddiad eto, arestiodd sawl barnwr a chyfreithiwr o'r Prif Lys, yn cynnwys y Prif Farnwr Iftikhar Muhammad Chaudhry, gorchmynodd arestio gwrthwynebwyr gwleidyddol ac ymgyrchwyr dros hawliau dynol, a chaeodd bob sianel teledu preifat. Cyhoeddodd stâd o argyfwng yn y wlad.