Pico d'Aneto
Oddi ar Wicipedia
Pico d'Aneto Pyreneau |
|
---|---|
![]() |
|
Llun | Wyneb gogleddol Pico d'Aneto |
Uchder | 2,821 m |
Gwlad | Sbaen |
Pico d'Aneto (Ffrangeg: Néthou) yw'r mynydd uchaf yn y Pyreneau. Saif yn nhalaith Huesca yng ngogledd Aragon yn Sbaen.
Dringwyd y mynydd am y tro cyntaf ar 20 Gorffennaf, 1842, gan Platon de Tchihatcheff, cyn-swyddog yn y fyddin Rwsaidd, gyda Pierre Sanio de Luz, Luchonnais Bernard Arrazau a Pierre Redonnet fel tywysyddion, ac Albert de Franqueville, botanegwr Ffrengig, a'i dywysydd, Jean Sors. Gadawsant yr Hospice de France ar 18 Gorffennaf a threulio dwy noson ar y mynydd.
Dringwyd y mynydd yn y gaeaf am y tro cyntaf ar 1 Mawrth, 1878 gan Roger de Monts, B. Courrèges, a B. a V. Paget.