Pilau
Oddi ar Wicipedia
Mae Pilau (weithiau ceir y trawlythreniad Pilao neu Pilaw) yn ynys greigiog sy'n gorwedd yn y Môr Canoldir oddi ar dref glan môr Raf Raf, i'r dwyrain o Bizerte yng ngogledd Tunisia. Enw arall ar yr ynys yn Arabeg yw K'minnaria ("copa tanllyd").
Daw'r enw Arabeg Pilau o'r gair Malayeg pulau, sy'n golygu "ynys". Enw arall arni gan forwyr yr ardal yw Haajret El Pilau (Arabeg am "Craig yr Ynys").