Pobol y Chyff
Oddi ar Wicipedia
Rhaglen gomedi a ddarlledid ar S4C ddiwedd yr wythdegau a dechrau'r nawdegau oedd Pobol y Chyff. Serennodd y brodyr Rhys Ifans a Llŷr Evans yn y sioe sgetsys hon.
Roedd Pobol y Chyff hefyd yn serennu Meirion Davies, partner Rhys Ifans yn The Two Franks. Byddai Cleo Rocos yn ymddangos yn rheolaidd fel Bronwen yn ei gwisg Gymreig draddodiadol.
Cân gan The Frank's (ar yr alaw Fairytale of New York)
They've got Merched y Wawr, they've got corau male voice, They've Gwersyll yr Urdd, Russell Grant and Max Boyce, Ond Frank mae e'n anodd i gael ty a chael gwaith, It's not chwarae plant, you know, saving the iaith They've got Sulwyn and Gwynfryn, Aneurin, Taliesin, They've got Peter Huws Griffiths and Marian Wyn Jones, If it's your dymuniad, I'll come with you cariad, Let's get us a brochure on holiday homes CYTGAN Mae'r choirs of Wales, of hills and dales yn canu inni Frank, It's our chance to save the language from its tranc We chuffin' love you Wales, y glaw a'r car-boot sales, Ac am eich croeso hael, you know you've made us smile, Ni'n mynd i brynu ty, sy'n derbyn es-ffôr-si A phan aiff pethau'n hard, bydd Frank a Frank ar faes y gad