Pol Pot
Oddi ar Wicipedia
Saloth Sar (19 Mai 1925-15 Ebrill 1998), yn fwy adnabyddus gan yr enw Pol Pot (yn fyr am Politique Potentielle, Ffrangeg am "potensial gwleidyddol") oedd arweinydd y Khmer Rouge a prif weinidog Cambodia o 1976 tan 1979. Enw swyddogol y wlad o dan ei arweinyddiaeth oedd Kampuchea Ddemocrataidd. Gan bu farw tua un traean o boblogaeth Cambodia yn ystod ei arweinyddiaeth, mae e'n cael ei ystyried fel un o'r llofruddwyr torfol gwaethaf yn hanes modern gyda brenin Gwlad Belg Leopold II, Adolf Hitler, Josef Stalin a Mao Zedong.
Pan roedd mewn grym, fe rhoddodd mewn lle polisi gormesol o symud pobl i'r wlad yn lle'r trefi i geisio 'puro' pobl Cambodia er mwyn troi'r wlad yn un fwy cyntefig ac amaethyddol. Roedd hwn yn cynnwys lladd rhwng un a dwy filiwn o bobl a welwyd fel 'gelynion bourgeoise'. Fe ffoes i goedwigoedd Cambodia ar ôl i Fietnam ymosod ar y wlad yn 1979 a chwymp y llywodraeth Khmer Rouge. Ni alwyd ef i gyfri byth am ei droseddau, a bu farw o achosion naturiol tra'n cuddio.