Port Talbot
Oddi ar Wicipedia
Port Talbot Castell-nedd Port Talbot |
|
Mae Port Talbot yn dref ddiwydiannol o dua 50,000 o bobol yng Nghastell-nedd Port Talbot ar ochor dwyreiniol Bae Abertawe yn ne Cymru. Saif ar lan Afon Afan.
[golygu] Hanes
Cnewyllyn y dref fodern yw'r hen dref Aberafan sydd ar ochr gorllewinol Afon Afan, yn ogystal a phentrefi hynafol eraill fel Baglan a Groes. Crewyd Port Talbot ei hun ym 1840 gyda agoriad y dociau newydd ar ochr dwyreiniol yr afon gan y teulu Talbot o Swydd Wilton a oedd yn berchen ar Abaty Margam ar y pryd. Mae'r dref fodern hefyd yn cynnwys ardaloedd Taibach, Traethmelyn, Margam a Felindre. Felly Port Talbot yw enw rhan canolog o'r dref ac hefyd enw'r dref gyfan. Mae llawer yn defnyddio Aberafan fel enw Cymraeg Port Talbot er yr enw safonol yw Porth Talbot. Enw amgen yw Porth Afan.
Mae'r dref wedi bod yn enwog am ei dociau a gweithio metel, yn enwedig y gwaith dur enfawr sydd ar ochor dwyreiniol y dref.
[golygu] Enwogion
- Richard Burton, actor
- Anthony Hopkins, actor
- Dic Penderyn, merthyr
Trefi a phentrefi Castell-nedd Port Talbot |
Aberafan | Alltwen | Baglan | Bedd y Cawr | Castell-nedd | Cwmafan | Cwmllynfell | Glyncorrwg | Glyn-Nedd | Gwaun-Cae-Gurwen | Llansawel | Pontardawe | Pontrhydyfen | Port Talbot | Sgiwen | Ystalyfera |