Pwll Ceris
Oddi ar Wicipedia
Mae Pwll Ceris yn drobwll peryglus yn Afon Menai, rhwng Ynys Môn ac Arfon yng ngogledd Cymru.
Mae'n gorwedd hanner ffordd rhwng Pont Britannia a Phont Menai, ychydig i'r de o Ynys Welltog ac i'r dwyrain o Ynys Gored Goch. Yno ceir cerrig y Swelley, a welir pan fo'r llanw'n isel, sy'n peri i'r dŵr ferwi'n wyllt o'u cwmpas pan ddaw'r llanw i mewn.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Traddodiadau
[golygu] Nennius
Mae Nennius yn cofnodi "Gwyrthiau Ynys Môn" yn yr adran ar "Ryfeddodau Prydain" yn ei Historia Brittonum ("Hanes y Brythoniaid": tua dechrau'r 9fed ganrif). Y bedwaredd wyrth sydd ganddo yw:
- ...carreg yn cerdded yn ystod y nos yn nyffryn Citheinn. Taflwyd hi gynt i Ceruus (Cerus neu Ceris), sydd yng nghanol y môr a elwir Mene (Menai), ond drannoeth, heb os nac onibai, cafwyd hi ar fin y dyffryn hwnnw.
[golygu] Hen englyn
Ceir hen englyn am Bwll Ceris a gedwid ar lafar ym Môn:
- Pwll Ceris, pwll dyrys drud -- pwll yw hwn
- Sy'n gofyn cyfarwydd;
- Pwll annwfn yw, pwll ynfyd,
- Pella o'i go' o'r pylla' i gyd.
[golygu] Llenyddiaeth
Mae nofel fer ramantus Owen Williamson, Ceris y Pwll yn adrodd helyntion y cymeriad dychmygol Ceris (mae'r awdur yn dychmygu fod y pwll yn dwyn enw y cymeriad hwnnw) ar ddechrau Oes y Seintiau.
[golygu] Darllen pellach
- J.E. Caerwyn-Williams (gol.), Llên a Llafar Môn (Llangefni, 1963). Tud. 55: "Pwll Ceris".
- Owen Williamson, Ceris y Pwll (Caernarfon, 1908)