Rawalpindi
Oddi ar Wicipedia
Dinas ar Wastadedd Potwar, talaith Punjab, gogledd Pacistan, ger y brifddinas Islamabad, yw Rawalpindi (Urdu: راولپنڈی). Rawalpindi ("Pindi" i bobl leol) yw lleoliad pencadlys milwrol Llu Arfog Pakistan a gwasanaethodd hefyd fel prifddinas y wlad wrth i ddinas newydd Islamabad gael ei chodi yn y 1960au. Mae'n gartref i sawl diwydiant a ffatri. Lleolir Maes Awyr Rhyngwladol Islamabad yn Rawalpindi ei hun, ac mae'n gwasanethu'r ddwy ddinas hynny. Gorwedd Rawalpindi yn nhalaith Punjab, 275 km (171 milltir) i'r gogledd-orllewin o Lahore. Hi yw canolfan weinyddol Ardal Rawalpindi. Poblogaeth Rawalpindi yw tua 3,039,550.
Ar 27 Rhagfyr 2007, lladdwyd Benazir Bhutto, cyn-Brif Weinidog Pakistan, gan derfysgwr ar ôl siarad mewn rali gan Plaid Pobl Pakistan mewn parc yng nghanol y ddinas.