Ray Gravell
Oddi ar Wicipedia
Roedd Ray William Robert Gravell, (3 Medi 1951-31 Hydref 2007), yn chwaraewr rygbi yn gyflwynydd radio yn sylwebydd rygbi ac yn actor. Ganwyd ef yn Mynyddygarreg ger Cydweli, Sir Gaerfyrddin, lle cafodd ei addysg gynradd cyn mynd i Ysgol Fodern Porth Tywyn ac wedyn i Ysgol Ramadeg y Bechgyn. Roedd yn byw yn Mynyddygarreg, lle ag oedd yn agos iawn at ei galon, gyda'i wraig Mari a'u dwy ferch Gwennan a Manon. Roedd yn byw yn y stryd a enwyd ar ei ôl, sef Heol Ray Gravell. Roedd yn genedlaethwr pybyr, yn edmygydd mawr o Dafydd Iwan, Carwyn James ac o Owain Glyndwr. Cysylltir y dywediad "West is Best" â Ray.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Gyrfa Rygbi
Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Glwb Rygbi Llanelli yn 1970, ac yn gapten y tim o 1980 i 1982. Cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol yn 1982 a chwaraeodd ei geêm olaf i Lanelli yn 1985 Ei gêm gyntaf dros Gymru oedd yr un yn erbyn Ffrainc ym Mharis yn 1975. Yn ystod ei yrfa, enillodd 23 cap dros Cymru. Yr oedd yn aelod o dim Cymru a enillodd y gamp lawn ddwy waith, fel arfer fel canolwr ond weithiau fel asgellwr. Bu ar daith Y Llewod i Dde Affrica yn 1980 gan chwarae yn y pedair gem brawf. Bu'n Llywydd Clwb Rygbi llanelli ac wedyn Clwb y Scarlets hyd ei farw.
[golygu] Actor a Darlledwr
Cafodd ran amlwg yn y ffilm Bonner y gwnaeth BBC ar gyfer S4C ac hefyd yn y ffilm Owain Glyndwr. Ymddangosodd yn ffilm deledu y BBC Filipina Dreamgirls a chwaraeodd ran yn ffilm Louis Malle Damage ac fel Referee No 1 yn y ffilm Up and Under. Cyflwynodd raglenni sgwrsio rheolaidd ar BBC Wales ac ar Radio Cymru. Tan ei farw yr oedd yn cyflwyno ei raglen foreuol ei hun o'r enw Grav ar Radio Cymru yn cael ei darlledu i orllewin Cymru. Roedd hefyd yn cyd-gyflwyno I'll Show You Mine gyda Frank Hennessy ar Radio Wales. Yr oedd hefyd tan ei farw yn aelod o dim sylwebu rygbi Cymraeg y BBC ar gemau y Cyngrair Celtaidd, Cwpan Powergen a'r Cwpan Heineken
[golygu] Clefyd y Siwgr
Roedd yn dioddef o glefyd y siwgr ers y flwyddyn 2000 Cyhoeddwyd ar 18 Ebrill 2007 y byddai rhaid iddo ddychwelyd i Ysbyty Glangwili ar ôl iddo gael llawdriniaeth fis yng nghynt i dorri ffwrdd dau o'i fysedd traed. Yn awr roedd rhaid iddo golli ei goes dde o dan y penglin Cafodd fynd adre ar y cyntaf o Fai ac wedi ail-ddechrau ar ei waith darlledu
[golygu] Marwolaeth
Buodd farw yn sydyn ar 31 Hydref 2007 tra ar wyliau yn Sbaen yn 56 blwydd oed. [1]
[golygu] Cwpan Ray Gravell?
Eisoes mae nifer o Gymry yn galw ar swyddogion Undeb Rygbi Cymru i ailystyried eu penderfyniad dadleuol i enwi'r tlws newydd i fuddugolwyr gemau rhyngwladol rhwng timau rygbi Cymru a De Affrica yn "Gwpan y Tywysog William" ac yn galw am newid yr enw i "Cwpan Ray Gravell" er coffadwriaeth deilwng iddo. Dadleuant fod enwi'r gwpan ar ôl y Tywysog William, Sais sy'n adnabyddus am ei gefnogaeth bersonol i dimau pêl-droed a rygbi Lloegr, yn cwbl anaddas. Lawnsiwyd deiseb ar-lein yn galw am newid yr enw arfaethedig i "Gwpan Ray Gravell" ar 6 Hydref 2007; deuddydd yn ddiweddarach roedd dros 2,000 o bobl wedi ei harwyddo.