Reticwlwm endoplasmig
Oddi ar Wicipedia

1 Niwclews 2 Mandwll niwclear 3 Reticwlwm endoplasmig garw 4 Reticwlwm endoplasmig llyfn 5 Ribosom ar yr RE garw 6 Proteinau sy'n cael eu cludo 7 Fesiglau cludiant 8 Organigyn Golgi 9 Ochr cis yr organigyn Golgi 10 Ochr trans yr organigyn Golgi 11 Cisternae yr organigyn Golgi
Organyn isgellog a ddarganfyddir mewn cell fiolegol ewcaryotig yw reticwlwm endoplasmig (a elwir yn RE yn fyr). Mae’n rhwydwaith bilen estynnol o cisternae (strwythurau codennol) o fewn cytoplasm y gell sydd wedi’i uno gyda’r amlen niwclear. Mae pilen ffosffolipid y reticwlwm yn amgáu gwagle o’r cytosol, a elwir yn waglyn cisternol neu lwmen. Mae swyddogaethau’r reticwlwm endoplasmig yn ddibynnol ar y fath o reticwlwm a'r fath o gell. Mae yna dair ffurf i'r reticwlwm endoplasmig sy’n weladwy yn y rhan fwyaf o gelloedd: reticwlwm endoplasmig llyfn, reticwlwm endoplasmig garw a reticwlwm sarcoplasmig.[1]
- Mae’r reticwlwm endoplasmig llyfn yn cynnwys nifer o ensymau pilennog, yn cynnwys nifer o ensymau sydd yn cymryd rhan yn synthesis lipidau, ocsidiad a dadwenwyno cyfansoddion estron (senobiotigion) fel cyffuriau. Mae ganddynt nifer o swyddogaethau metabolaidd eraill, fel rheoli crynodiad Calsiwm y gell, cymryd rhan yn metabolaeth carbohydradau a glynu derbynnyddion wrth broteinau cellbilennau. Darganfyddir RE llyfn yn nifer o wahanol fathau o gell a maent â pwrpasau gwahanol ym mhob un. Mae RE llyfn yn cynnwys tiwbynnau a fesiglau sy'n canghennu i ffurfio rhwydwaith sy’n cynyddu arwynebedd ar gyfer prosesau metabolaidd ac ar gyfer storio ensymau.
- Enwyd y reticwlwm endoplasmig garw oherwydd presenoldeb nifer o ribosomau ar bilen allanol y reticwlwm. Mae hyn yn rhoi ymddangosiad garw i'r RE. Mae'r ribosomau yma yn benodol yn syntheseiddio proteinau sy'n cael eu secretu gan y gell neu proteinau i'w defnyddio yn y bilen blasma a rhai organynnau cellog. Mae'r RE garw yn barhaol gyda haen allanol yr amlen niwclear, ac felly mae modd i drosglwyddo deunyddiau rhwng cnewyllyn y gell a'r rhwydwaith Reticwlwm Endoplasmig. Er nad oes pilen ddi-dor rhwng yr RE garw a'r organigyn Golgi, bydd fesiglau pilennog yn trosglwyddo proteinau rhwng y ddau. Mae'r RE garw yn cydweithio â’r organigyn Golgi i gyfeirio proteinau newydd i'r llefydd cywir.[2]
- Mae’r reticwlwm sarcoplasmig yn fath arbennig o RE llyfn a ddarganfyddir mewn cyhyr rhesog. Yr unig wahaniaeth strwythurol rhwng reticwlwm sarcoplasmig a RE llyfn yw'r gymysgedd o broteinau sydd ynddynt. Oherwydd hyn, mae'r reticwlwm sarcoplasmig yn fwy addas ar gyfer storio a pwmpio ionau Calsiwm, sy'n bwysig ar gyfer ysgogi cyfangiad cyhyrol[3]. Yn gyferbynniol, mae RE llyfn yn fwy addas ar gyfer syntheseiddio molecylau.
[golygu] Swyddogaethau
- Trosi, cludo a threfnu proteinau.
- Achosi glycosyleiddiad.
- Atafaeliad Calsiwm.
- Cynhyrchu a storio glycogen, steroidau a macromoleciwlau eraill.
- Ffurfio bondiau deusylffid i sefydlogi proteinau.
[golygu] Hanes
Arsylwyd retiwclwm endoplasmig yn gyntaf gan Keith R. Porter o dan ficrosgôp electron yn ystod ei waith ar feithriniad meinweoedd yn athrofa ymchwil meddygaeth Rockerfeller yn Efrog Newydd yn 1944.[4]
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Endoplasmic reticulum: Structure and function. Prifysgol Meddygol Texas. (Saesneg) http://cellbio.utmb.edu/cellbio/rer1.htm
- ↑ Campbell, Neil A. (1996) Biology Fourth Edition. Benjamin/Cummings Publishing, pp. 120-121 ISBN 0-8053-1940-9
- ↑ Toyoshima C, Nakasako M, Nomura H, Ogawa H. (2000, June 8). (Saesneg) Crystal structure of the calcium pump of sarcoplasmic reticulum at 2.6 A resolution. Nature. 405(6787):647-55.
- ↑ A study of tissue culture cells by electron microscopy., Keith R. Porter, Albert Claude a Ernest F. Fullam. (derbynwyd ar gyfer cyhoeddiad yn Nhachwedd 1944)