Rhinog Fawr
Oddi ar Wicipedia
Rhinog Fawr Rhinogydd |
|
---|---|
![]() |
|
Llun | Rhinog Fawr a Bwlch Drws Ardudwy |
Uchder | 720m |
Gwlad | Cymru |
Mae Rhinog Fawr yn fynydd yn y Rhinogydd yng Ngwynedd. Fel y rhan fwyaf o'r Rhinogydd, ceir creigiau wedi eu gorchddio gan rug, sy'n gwneud ei ddringo yn waith caled. Gellir ei ddringo trwy gychwyn gerllaw Llyn Cwm Bychan a dringo'r Grisiau Rhufeinig i ben Bwlch Tyddiad, yna troi i'r dde fymryn cyn man uchaf y bwlch i ddringo Rhinog Fawr. Dull arall yw cychwyn o ffermdy Maesygarnedd yng Nghwm Nantcol, man geni John Jones, Maesygarnedd. Oddi yma gellir dringo Bwlch Drws Ardudwy, sydd rhwng Rhinog Fawr a Rhinog Fach, yna troi i'r chwith ym mhen y bwlch i gyrraedd y copa.
Er gwaethaf ei enw, nid Rhinog Fawr yw'r copa uchaf yn y Rhinogydd; mae Y Llethr yn 756 medr o uchder.