Rhodri ap Hywel
Oddi ar Wicipedia
Cyd-frenin Deheubarth oedd Rhodri ap Hywel (bu farw 953).
Roedd Rhodri yn fab i Hywel Dda, ac ar farwolaeth ei dad yn 950, rhannwyd ei deyrnas rhwng Rhodri a'i ddau frawd, Edwin ac Owain. Ni lwyddodd y llinach i gadw eu gafael ar Wynedd oedd wedi bod yn rhan o deyrnas eu tad ers 942. Gallodd meibion Idwal Foel, Iago ab Idwal ac Ieuaf ab Idwal, gipio grym yno.
Yn 952 ymosododd Iago ac Ieuaf ar Ddeheubarth, gan gyrraedd cyn belled a Dyfed. Y flwyddyn wedyn, arweiniodd meibion Hywel gyrch yn erbyn y gogledd, gan gyrraedd cyn belled a Dyffryn Conwy cyn cael eu gorchfygu mewn brwydr ger Llanrwst a'u gorfodi i ddychwelyd i Geredigion.
[golygu] Llyfryddiaeth
- John Davies (2007) Hanes Cymru (Penguin) ISBN 0-140-28476-1
- John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)
O'i flaen : Hywel Dda |
Teyrnoedd Deheubarth Rhodri ap Hywel 950-953 |
Olynydd : Owain ap Hywel Edwin ap Hywel |