Rhufain
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas yr Eidal yw Rhufain (Roma yn Eidaleg a Lladin). Saif ar lannau Afon Tiber tua 30km o lan y Môr Canoldir. Lleolir Dinas y Fatican, sef sedd y Pab a'r Eglwys Gatholig Rufeinig mewn clofan yng nghanol y ddinas.
Yn ystod ei hanes hir bu Rhufain yn brifddinas ar y Deyrnas Rufeinig, y Weriniaeth Rufeinig, a'r Ymerodraeth Rufeinig.
Yn ôl y chwedl sefydlwyd y dref gan Romulus, gefaill Remus ar 21 Ebrill, 753 C.C., a laddodd ei frawd Remus yn ddiweddarach. Y dyddiad hwn yw sylfaen y calendr Rhufeinig a chalendr Julius (Ab urbe condita). Roedd Romulus a Remus yn blant i'r duw Mawrth a chawsant eu magu gan fleiddes (yn Eidaleg, La Lupa Capitolina).
Sefydlwyd Rhufain ar Fryn yr Haul (sef Bryn Palatîn), a ehangwyd i gynnwys Saith Bryn Rhufain: Bryn Palatîn, Bryn Aventîn, Bryn Capitolîn, Bryn Quirinal, Bryn Viminal, Bryn Esquilîn a Bryn Caelian. Enwyd y rhain ar ôl y lleuad, Mercher, Gwener, Mawrth, Iau a Sadwrn.
Mae amffitheatr y Colosseum a theml y Pantheon ymhlith adeiladau enwocaf y ddinas. Daw y Circus Maximus a'r Domus Aurea, plasty'r ymerawdwr Nero, hefyd o gyfnod yr Ymerodraeth.
Mae nifer o symbolau o ddinas Rhufain, gan gynnwys yr Eryr Ymerodrol, Y Fleiddes Gapitolinaidd a'r llythrennau SPQR, sydd yn sefyll am senatus populusque Romanus (senedd a phobl Rhufain), i'w gweld ledled y ddinas hyd heddiw.
[golygu] Adeiladau a cofadeiladau modern
- Cofadail Vittorio Emanuele II
- Palazzo della Cancelleria
- Palazzo Farnese
- Piazza Navona
- Piazza Venezia
- Ponte Sant'Angelo
- Plas Quirinal
- Grisiau Ysbaeneg
- Ffynnon Trevi
- Ffynnon Triton
- Villa Borghese
- Villa Farnesina
[golygu] Dolenau allanol
- (Eidaleg) Gwefan swyddogol Dinas Rhufain