Rhydwilym Capel y Bedyddwyr
Oddi ar Wicipedia
Mae Rhydwilym yn un o gapeli cynharaf y Bedyddwyr, yng nghefngwlad Sir Benfro, gorllewin Cymru. Fe'i corfforwyd yn 1668 ac fe adeiladwyd y capel cyntaf yn 1701 a adeildwyd trwy gefnogaeth John Evans, Llwyndŵr. Helaethwyd y capel yn 1763 a chodwyd capel newydd yn 1841. Codwyd yr un presennol yn 1875.
Yn lobi y capel presennol mae carreg o'r adeilad gwreiddiol gyda'r geiriau canlynol wedi eu torri arni:
- JOHN EVANS O LLWYNDWR GOSTODD
- GWNEUTHUR.Y.TY. HWN ANNO DOM 1701
- GAN DDYMUNO. Y. TY. HUN . Y. USE. Y
- BOBLE BYTH. SY. N. DALA Y. vi GWUDDOR
- SY. N. Y. vi OR. HEBRE. 1.2
Cyfeiriad at Y Llythyr at yr Hebreaid, Pennod 1, adnod 2, yn y Testament Newydd, sydd yn y llinell olaf.
Ymfudodd 16 o'r aelodau i Delaware, UDA, yn 1701 a sefydlu eglwys yno.
[golygu] Gweinidogion Rhydwilym
- Gabriel Rees
- Thomas Jones
[golygu] Cysylltiadau allanol
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.