Rhyfel cartref
Oddi ar Wicipedia
Rhyfel cartref yw rhyfel a ymleddir gan ddwy neu ragor o bleidiau mewn gwlad ymranedig. Yn aml mae hynny yn digwydd oherwydd gwrthdaro ethnig neu wrthdaro crefyddol, neu gyfuniad o'r ddau beth.
Roedd Rhyfeloedd y Rhosynnau yn fath o ryfel cartref ond doedd y werin bobl ddim yn cymryd llawer o ran: brwydr gwleidyddol oedd o. Cafwyd rhyfel cartref go iawn yn Lloegr rhwng y Pennau Crynion a'r Brenhinwyr, ac effeithiodd hynny ar Gymru hefyd, ond dim fel yn Lloegr. Math o ryfel cartref oedd y cwffio yng Ngogledd Iwerddon rhwng y Catholigion / Gweriniaethwyr a'r Protestaniaid / Unoliaethwyr hefyd, ond chafodd o ddim ei alw hynny'n swyddogol, dim ond fel 'Yr Helyntion'.
Mae Irac mewn rhyfel cartref heddiw ym marn nifer o bobl.
[golygu] Rhyfeloedd cartref
- Rhyfel Cartref America
- Rhyfel Cartref Côte d'Ivoire
- Rhyfel Cartref Lloegr, 1642-51, a elwir weithiau yn Rhyfeloedd Cartref Lloegr
- Rhyfel Cartref Nepal
- Rhyfel Cartref Sbaen
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.