Rhys Lewis
Oddi ar Wicipedia

Nofel gan Daniel Owen yw Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf yn 1885, ac yn ddiweddar mae wedi ei haddasu ar gyfer y teledu.
Ysgifennir y nofel hon yn y person cyntaf , yn croniclo hunangofiant Rhys ers ei ddyddiau cyntaf. Mae bywyd yn galed i Rhys, ac mae llu o brofediagaethau yn ymweld a'i deulu a'i gymuned. Mae Rhys wedi ei feithrin mewn crefydd gan ei fam, a gyda chymorth ambell i gyfaill fe ddaw yn weinidog Bethel.
Cymeriad hoffus arall yw Wil Bryan, ychydig yn hŷn na Rhys, a'i gyfaill pennaf. Lle mae Rhys yn ymdrechu i ymddwyn yn gywir, mae Wil yn llawn direidi, ond rhywsut fe welwn bod Wil, erbyn diwedd y llyfr, wedi llwyddo mewn bywyd.
Mae ochr dywyll i'r nofel, a dydy pechod a drygioni perthnasau eraill yn y cysgodion byth yn bell i ffwrdd. Mae iselder ysbryd a phryddglwyf yn treiddio drwy'r hanes.