Riyadh
Oddi ar Wicipedia
Riyadh yw prifddinas a dinas fwyaf Saudi Arabia. Mae'n gorwedd yn nyffryn hir Jabal Tuwayk yng nghanol gorynys Arabia. Tref fechan oedd Riyadh tan y 1930au pan ddarganfuwyd olew yn Saudi. Ers hynny mae wedi tyfu'n gyflym ac erbyn heddiw mae'n ddinas fodern brysur gyda nifer o adeiladau newydd. Mae'n gartref i lywodraeth y wlad a dwy brifysgol.