Robert Jones, Rhoslan
Oddi ar Wicipedia
Pregethwr, athro ac awdur ar bynciau crefyddol oedd Robert Jones (13 Ionawr 1745 - 18 Ebrill 1829), a adwaenir fel Robert Jones, Rhoslan. Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur Drych yr Amseroedd (1820).
Ganwyd ef ar fferm y Suntur, Llanystumdwy, ac addysgwyd ef yn un o ysgolion cylchynol Griffith Jones. Yn ddiweddarach daeth ef ei hun yn athro yn yr ysgolion cylchynol hyn mewn nifer o leoedd yng ngogledd Cymru. Roedd yn aelod o'r Methodistiaid Calfinaidd, a daeth yn amlwg fel pregethwr iddynt.
Priodiodd Magdalen Prichard a symudodd i Roslan, lle defnyddiai ran o'i dŷ fel capel Methodistaidd. Yn ddiweddarach symudodd i Ddinas, Llŷn. Roedd ganddo bedwar o blant. Claddwyd ef ym mynwent Llaniestyn.
Ei gyfrol enwocaf yw Drych yr Amseroedd, sy'n rhoi hanes yr Ymneilltuwyr cynnar yng Ngwynedd a'r erledigaeth a fu arnynt. Mae'n ffynhonnell bwysig i haneswyr crefydd a chymdeithas yn ail hanner y 18fed ganrif yng Nghymru ac yn nodweddiadol am ei arddull bywiog a'i frasluniau cofiadwy o bobl a digwyddiadau.
[golygu] Cyhoeddiadau (detholiad)
- Lleferydd yr Asyn (1776: cyhoeddwyd am yn wreiddiol fel Ymddiffyn Crist'nogol, 1770)
- Drych i'r Anllythrennog (1778)
- Grawnsypiau Canaan (1795)
- Drych yr Amseroedd (1820)