Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)
Oddi ar Wicipedia
Bardd ac emynydd oedd Robert Williams, mwy adnabyddus fel Robert ap Gwilym Ddu (6 Rhagfyr 1766 - 11 Gorffennaf 1850.
Ganed ef yn ffermdy'r Betws Fawr ym mhlwyf Llanystumdwy yn Eifionydd. Bu'n ffermio yn y Betws Fawr am y rhan fwyaf o'i oes. Priododd pan oedd tua 50 oed, a chafodd un ferch, Jane Elizabeth, ond bu hi farw yn 17 oed yn 1834. Mae marwnad ei thad iddi yn adnabyddus. Roedd yn gyfaill i Dewi Wyn o Eifion a J. R. Jones, Ramoth.
Ystyrir ef yn un o feirdd gorau ei gyfnod yn y mesurau caeth, ac mae nifer o'i emynau yn boblogaidd, yn enwedig "Mae'r gwaed a redodd ar y groes".