Rondo
Oddi ar Wicipedia
- Am y mydr telynegol, gweler rondeau.
Ffurf gerddorol sy'n cynnwys thema ailadroddol gyda symudiadau cyferbynnol wedi'u plethu ynddi yw rondo. Ei ffurf symlach yw ABACADA, lle mae "A" yn cynrhycioli thema'r rondo a "B/C/D" yn cynrychioli'r pennodau neu symudiadau cyferbynnol. Mae sawl thema yn cael ei ddatblygu felly. Roedd yn ffurf boblogaidd iawn gan gyfansoddwyr mawr y 18fed ganrif, e.e. Mozart, ac fe'i datblygwyd gan Beethoven, Schubert ac eraill trwy ei chyfuno a'r ffurf sonata.