Sain Ffagan
Oddi ar Wicipedia
Mae Sain Ffagan yn bentref ar gyrion Caerdydd, Bro Morgannwg. Rhed Afon Elai trwy'r pentref. Yn y castell a'i barcdir ceir Amgueddfa Werin Cymru.
Yn 1648 ymladdwyd un o frwydrau mawr y Rhyfel Cartref yn Sain Ffagan.
Cafodd y fforiwr Tannatt William Edgeworth David (1858-1934) ei eni yn Sain Ffagan.