Sam & Max
Oddi ar Wicipedia
Pâr o gymeriadau comig a greuwyd gan y darlunydd ac ysgrifennwr Steve Purcell yw Sam & Max. Ci anthropomorffig sy'n gwisgo dillad detectif yw Sam a cwningen yw Max (ond mae'r llyfrau comics yn ei ddisgrifio fel hyperkinetic rabbity thing). Mae'r ddau yn gweithio fel ymchwilwyr preifat, ond maent fel arfer yn cyfeirio i'w hunain fel Freelance Police. Yn wreiddiol, roeddent yn gymeriadau mewn llyfrau comics o'r un enw yn 1987, ond ers hynny maent wedi ymddangos mewn gemau cyfrifiadur ac mewn cyfres deledu a ddangoswyd ym Mhrydain ar S4C a Channel 4.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.