Scott Beaumont
Oddi ar Wicipedia
Manylion Personol | |
---|---|
Enw Llawn | Scott Beaumont |
Llysenw | Boom Boom |
Dyddiad geni | 2 Mehefin 1978 (29 oed) |
Gwlad | Lloegr Prydain Fawr |
Gwybodaeth Tîm | |
Disgyblaeth | BMX & Beicio Mynydd |
Rôl | Reidiwr |
Math o reidiwr | Beicio Mynydd Lawr Allt & 4x |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2006- | Rocky Mountain |
Prif gampau | |
Pencampwr y Byd | |
Golygwyd ddiwethaf ar: | |
4 Hydref 2007 |
Beiciwr mynydd proffesiynol Seisnig ydy Scott Beaumont (ganwyd 2 Mehefin 1978, Droitwich Spa, Swydd Gaerwrangon), mae'n arbenigo yn nisgyblaethau Beicio mynydd lawr allt a 4x. Mae'n byw yn Kidderminster. Dechreuodd reidio BMX yn 4 oed, aeth ymlaen i ennill sawl teitl cenedlaethol, bu'n Bencampwr BMX y Byd yn 1995 ac 1996.
Dechreuodd reidio beic mynydd yn 1996. Roedd y ddisgyblaeth slalom ddeuol newydd gael ei chreu ac roedd timau beicio mynydd yn chwilio am reidwyr BMX profiadol i pontio i'r ddisgyblaeth newydd.
Pan gymerodd 4x le slalom ddeuol, newidiodd Beaumont i'r ddisgyblaeth hon. Mae'n dal i fod â proffil uchel ym myd beicio mynydd ym Mhrydain ac yn un o'r reidwyr elet maf blaengar yng nghyfres cenedlaethol 4x Prydain.
[golygu] Canlyniadau
- 2007
- 2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Beicio Mynydd Prydain, 4x
- 1af Cymal Fort William, Cyfres Cenedlaethol 4x Prydain
- 1af Cymal 6, Redhill Extreme, Cyfres Cenedlaethol 4x Prydain
[golygu] Dolenni Allanol
- Gwefan swyddogol Beaumont Racing
- Rocky Mountain signs Scott Beaumont for 2006 rocky-mountain.com
- Cyfweliad gyda British Cycling 11 Ebrill 2006
- Cyfweliad gyda Simon Paton ar descent-world.co.uk
- Gwefan Cyfres Cenedlaethol 4x Prydain
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.