Segovia
Oddi ar Wicipedia
- Am y gitarydd clasurol, gweler Andrés Segovia.
- Am yr hen ddinas yn ne Sbaen, gweler Segovia (Baetica).
Dinas yng nghymuned ymreolaethol Castilla y León yn Sbaen yw Segovia. Mae'n bridddinas talaith Segovia, gyda phoblogaeth o 55,586. Perthynai'r dref i lwyth yr Arevaci yn wreiddiol, ac yn ddiweddarach daeth yn ran o dalaith Rufeinig Hispania Tarraconensis.
Ceir nifer fawr o henebion yn yr hen ddinas, sydd wedi ei henwi'n Safle Treftadaeth y Byd. Yn eu plith mae'r Eglwys Gadeiriol ac Acwedwct Segovia, sy'n dyddio o'r cyfnod Rhufeinig. Adeiladwyd caer yr Alcázar o'r 11eg ganrif ymlaen. ac yn y Canol Oesoedd yma yr oedd hoff breswylfa brenhinoedd Castilla.
Amgylchynir y ddinas gan furiau a adeiladwyd yn yr 8fed ganrif, efallai ar seiliau muriau Rhufeinig.