Sibrydion
Oddi ar Wicipedia
Sibrydion | |
---|---|
Gwybodaeth Cefndirol | |
Tarddiad | ![]() |
Blynyddoedd | 2005– |
Label(i) Recordio | Rasal / Copa |
Cysylltiedig | Big Leaves |
Aelodau | |
Osian Gwynedd - Prif Lais, Gitar Meilir Gwynedd - Allweddellau Dan "Fflos" Lawrence - Gitar Flaen Rhys Roberts - Gitar Fâs Dafydd Nant- Drymiau |
Band o Gaerdydd yw Sibrydion, yn wreiddiol o'r Waunfawr, a ffurfiwyd gan y brodyr Osian a Meilir Gwynedd, gynt o'r band Big Leaves. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, JigCal(2005), gan y ddau frawd, a Dan "Fflos" Lawrence ar label Rasal, a recordwyd yn Stiwdio Nen, Caerdydd.
Fe fu'r band yn llwyddiannus iawn ers rhyddhau JigCal, gan ennill albwm gorau 2006 yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru, a dewiswyd y gân 'Dafad Ddu' fel cerddoriaeth deitlau rhaglen Bandit ar S4C.
Erbyn 2007, ehangodd y band ymhellach, ac erbyn hyn mae pum aelod yn y band: Meilir Gwynedd (Llais, Gitar Flaen), Osian Gwynedd (allweddellau), Dan Lawrence (Gitar), Rhys Roberts (Bas) sydd hefyd yn aelod o Anweledig, a Dafydd Nant (drymiau) sydd hefyd yn aelod o Bob. Rhyddhawyd eu hail albwm, Simsalabim yng Ngorffennaf 2007, ar label Copa.
[golygu] Disgograffi
- JigCal, 3 Awst 2005, Rasal
- Simsalabim, 30 Gorffennaf 2007, Copa