Sioe Frenhinol Cymru
Oddi ar Wicipedia
Sioe Frenhinol Cymru yw sioe amaethyddol fwyaf Ewrop. Fe'i trefnir gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ac fe'i cynhelir ym mis Gorffennaf ar faes ym mhentref Llanelwedd, ger Llanfair-ym-Muallt, Powys.
[golygu] Rhaglen a digwyddiadau
Mae'r sioe yn para am bedwar diwrnod ac yn denu mwy na 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, o Gymru a'r tu hwnt, sy'n ei gwneud yn un o atyniadau twristaidd mwyaf y wlad.
Mae'r digwyddiadau yn cynnwys:
- Barnu'r goreuon yn nosbarthiadau gwartheg, defaid, ceffylau, geifr a sawl math arall o anifail dof.
- Treialon cŵn defaid
- Cystadleuthau cneifio defaid
- Cystadleuthau marchogaeth
- Arddangosfeydd gyrru
- Hebogaeth
- Gemau a chwaraeon o bob math
- Sioe Crefftau
- Cerddoriaeth fyw
Ceir nifer o stondinau busnes ar y maes, yn arbennig busnesau gyda chysylltiad ag amaethyddiaeth yng Nghymru. Yn ogystal mae'r sioe yn rhoi cyfle i ffermwyr gwrdd a thrafod ac efallai i ennill busnes newydd.
Y Sioe Frenhinol yw un o'r prif ddigwyddiadau cymdeithasol i ffermwyr Cymru. Mae Cymdeithas y Ffermwyr Ifainc yn rhedeg cyfres o gystadlaethau rhanbarthol trwy'r flwyddyn gyda'r enillwyr yn cymryd rhan mewn cystadleuthau cenedlaethol ar faes y Sioe.
Darlledir yn fyw o'r maes gan S4C bob blwyddyn.