Skopje
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas a dinas fwyaf Gweriniaeth Macedonia yw Skopje (Macedoneg Скопје, Albaneg Shkupi). Gyda phoblogaeth dipyn yn uwch na hanner miliwn o drigolion, hon yw canolfan wleidyddol, ddiwylliannol, economeg ac academaidd y wlad. Mae poblogaeth y ddinas yn gymysg. Yn eu mysg y mae Macedoniaid (66.7%), Albaniaid (20.5%), Roma (4.6%), Serbiaid (2.8%) a Thyrciaid (1.7%). Saif y ddinas ar Afon Vardar yng ngogledd y wlad.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.